P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio’r dreth gyngor

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David TC Davies MP, ar ôl casglu cyfanswm o 3,324 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae trigolion Sir Fynwy yn wynebu codiadau anferthol yn y dreth gyngor os bydd cynigion i ailbrisio cartrefi yn mynd yn eu blaenau.

Mae ailbrisiad o bob un o’r 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru yn cael ei awgrymu mewn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. O dan 'Treth Gyngor Decach' - byddai bandiau newydd yn cael eu creu a chyfraddau treth newydd yn cael eu pennu ar gyfer pob band.

Wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad mae lincs at adroddiadau gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Phrifysgol Sheffield yn amcangyfrif y costau ychwanegol y bydd pobl yn eu hwynebu mewn gwahanol rannau o Gymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’r ymgynghoriad hwn yn dangos y bydd bron i 4 o bob 10 o berchnogion tai yn Sir Fynwy yn symud i fyny band ac yn wynebu talu cannoedd yn fwy bob blwyddyn mewn treth gyngor, tra byddai llai nag 1 o bob 10 yn talu llai drwy symud i lawr band.

Mae trigolion eisoes yn wynebu baich annheg o ran y dreth gyngor oherwydd dyma’r ardal awdurdod lleol sy’n cael y lefel leiaf o gyllid yng Nghymru. Mae’r bwlch rhwng yr hyn a geir gan Lywodraeth Lafur Cymru a’r hyn y mae’r cyngor yn ei wario yn cael ei lenwi gan y dreth gyngor.

Mae Sir Fynwy yn debygol o fod ar ei cholled o’r cynigion hyn a allai wthio teuluoedd sydd dan bwysau i fandiau treth gyngor llawer uwch, gan ei gwneud hyd yn oed yn ddrytach ac i rai pobl leol yn anfforddiadwy i fyw yma ar adeg pan mae llawer yn cael trafferth gyda chostau byw.

Rwy’n annog trigolion Sir Fynwy i lofnodi’r ddeiseb hon fel y gall y Senedd gymryd camau i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru.

 

www.david-davies.org.uk/news/monmouthshire-residents-face-council-tax-bombshell-under-welsh-government-plans

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Mynwy

·         Dwyrain De Cymru